Ci Weimaraner

Ci Weimaraner
Enghraifft o'r canlynolbrîd o gi Edit this on Wikidata
Màs30 cilogram, 40 cilogram, 25 cilogram, 35 cilogram Edit this on Wikidata
Gwladyr Almaen Edit this on Wikidata
Enw brodorolWeimaraner Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia
Ci Weimaraner

Ci adar sy'n tarddu o'r Almaen yw'r Ci Weimaraner.[1] Cafodd ei ddatblygu ar ddechrau'r 19eg ganrif gan bendefigion Almaenig yn llys Weimar i hela anifeiliaid mawr. Yn hwyrach cafodd ei ddefnyddio i hela a nôl adar.[2]

Mae'n gi gosgeiddig a chanddo osgo effro a phwyllog. Mae ganddo glustiau llipa, llygaid o liw glas, llwyd neu ambr, a chôt o flew byr a llyfn o liw llwyd llygoden neu lwyd arian. Mae ganddo daldra o 58 i 68.5 cm (23 i 27 modfedd) ac yn pwyso 32 i 39 kg (70 i 85 o bwysau). Mae'n gi hela ymladdgar ac yn gi cymar a gwarchotgi da.[2]

Daeth y brîd hwn yn enwog ar ddechrau'r 1970au trwy ffotograffau a fideos William Wegman.[2]

  1. Geiriadur yr Academi, [Weimaraner].
  2. 2.0 2.1 2.2 (Saesneg) Weimaraner. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 28 Hydref 2014.

From Wikipedia, the free encyclopedia · View on Wikipedia

Developed by Tubidy